1 Corinthians 9

Paul yn dewis peidio manteisio ar ei hawliau

1Ydw i ddim yn rhydd? Wrth gwrs fy mod i! Ydw i ddim yn gynrychiolydd personol i'r Meseia? Ydw, a dw i wedi gweld ein Harglwydd Iesu yn fyw! 2Os ydw i ddim yn ei gynrychioli yng ngolwg rhai, dw i siŵr o fod yn eich golwg chi! Chi ydy'r dystysgrif sy'n profi fy mod i'n gynrychiolydd personol i'r Arglwydd.

3Dyma fy amddiffyniad i'r rhai sy'n feirniadol ohono i. 4Mae gynnon ni hawl i fwyta ac yfed siŵr o fod? 5Oes gynnon ni ddim hawl i briodi a mynd â'n gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni? – dyna mae ei gynrychiolwyr personol eraill, a brodyr yr Arglwydd a Pedr
9:5 Pedr: gw. nodyn ar 1:12
yn ei wneud.
6Neu ai fi a Barnabas ydy'r unig rai sy'n gorfod gweithio am eu bywoliaeth?

7Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth? 8A peidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth? 9Ydy, mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” b Ai dim ond poeni am ychen mae Duw? 10Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e – dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd! 11Felly os wnaethon ni hau hadau ysbrydol yn eich plith chi, ydyn ni'n gofyn gormod i ddisgwyl cael peth ffrwyth materol gynnoch chi? 12Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia.

13Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor? 14Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.

15Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i. 16Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio – does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da! 17Petawn i'n cyhoeddi'r neges am fy mod i'n dewis gwneud hynny gallwn i dderbyn gwobr. Ond ddim felly mae hi – y cwbl dw i'n ei wneud ydy cyflawni'r dasg sydd wedi cael ei rhoi i mi. 18Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr.

19Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd. 20Dw i'n siarad â'r Iddewon fel Iddew, er mwyn ennill yr Iddewon. Gyda phawb sy'n dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sy'n dilyn y Gyfraith. Dw i fy hun ddim yn rhwym i ofynion Cyfraith Moses, ond dw i am ennill y rhai sydd yn dilyn y Gyfraith. 21Gyda'r rhai sydd ddim yn dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sydd heb y Gyfraith, er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith (Wrth gwrs, dw i ddim yn rhydd o Gyfraith Dduw go iawn gan fy mod i'n ymostwng i gyfraith y Meseia). 22Dw i'n uniaethu gyda'r rhai sy'n ‛wan‛ er mwyn ennill y gwan. Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy'n bosib i achub pobl. 23Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion.

24Mae'r rhai sy'n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg – fel rhai sy'n benderfynol o ennill. 25I gystadlu yn y Gemau mae'n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw'n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth! 26Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu'r awyr. 27Na, dw i'n gwthio fy hun i'r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr – rhag i mi, ar ôl cyhoeddi'r neges i bobl eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun!

Copyright information for CYM